Gwelwch yr adran ar sut i'w lenwi am ganllawiau ar fewngofnodi a llenwi'r arolwg.
Dewiswch o un o'r meysydd o ganllawiau (neu sgroliwch i lawr i ddarllen pob un yn ei dro):
Gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol am gymorth os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am y gwasanaeth. Dewiswch eich AALl o'r rhestr ganlynol (a bydd manylion cysylltu am y swyddog blaen enwebedig i'ch awdurdod yn ymddangos isod):
Neu fe allwch e-bostio llinell gymorth arolwg ysgolion y Comisiwn Archwilio drwy:schoolsurvey-help@audit-commission.gov.uk
Os collwch neu os anghofiwch y cyfrinair a osodwyd gennych pan aeth i wefan yr arolwg gyntaf, gallwch ei e-bostio atoch eto drwy ddilyn y camau hyn:
Unwaith y byddwch yn yr arolwg ar-lein (h.y. o dudalen Prif Ddewislen yr Arolwg ymlaen), gallwch argraffu copi o'ch arolwg, gan gynnwys unrhyw ymatebion a wnaethoch, drwy glicio ar Argraffu yn y ddewislen ar y chwith. Bydd hyn yn agor ffenestr newydd gyda fersiwn argraffadwy o'r arolwg - ewch i File ac yna Print er mwyn ei argraffu o'ch PC.