Audit Commission

Audit Commission

Skip to content Go to accessibility page

Main navigation

Help i Ysgolion

Eich AALL fydd y pwynt cysylltu cyntaf i bob ymholiad ynghylch y wefan hon (mae manylion cysylltu ar y dudalen Cymorth pellach), ond gallwch hefyd gysylltu â'r Comisiwn Archwilio drwy e-bostio schoolsurvey-help@audit-commission.gov.uk.

Gellir ymweld â'r arolwg droeon tra bod y wefan ar agor (3 Mehefin - 15 Gorffennaf 2009) nes i chi ei derfynu. Mae'n cael ei gadw fel gwaith ar y gweill bob tro. Gallwch hefyd argraffu copi i'w rannu gyda chydweithwyr.

Dewiswch o un o'r meysydd o ganllawiau (neu sgroliwch i lawr i ddarllen pob un yn ei dro):


Mewngofnodi

  • O 3 Mehefin, ewch i wefan prosiect arolwg ysgolion yn www.audit-commission.gov.uk/schoolsurvey
  • Cliciwch ar Mynd i arolwg 2009.
  • Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen croeso'r arolwg ar-lein, lle y dylech roi eich rhifau ALL a DfES/WAG (e.e. 123 yna 4567) ac yna cliciwch ar Mynd i'r arolwg.
  • Y tro cyntaf y byddwch yn ymweld ag arolwg 2009 dangosir rhai o fanylion eich ysgol i chi - dylech wirio'r rhain i sicrhau eich bod wedi defnyddio rhif gywir yr ysgol i fynd i'r wefan. Wedyn dylech roi eich cyfeiriad e-bost a gosod cyfrinair. Caiff hwn ei e-bostio atoch yn awtomatig ar gyfer eich cofnodion.
  • Cliciwch ar Dechrau arolwg ac eir â chi i Brif Ddewislen yr Arolwg.
  • I ymweld â'r safle eto cyn y dyddiad cau, bydd rhaid i chi roi rhifau AALL a DfES neu WAG a'ch cyfrinair.

Beth yw fy rhifau ysgol ac AALl?

Eich rhifau Ysgol ac AALl yw'r rhai a ddefnyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r DfES yn eu bas data o sefydliadau addysgol fel cyfeirnod ar gyfer eich ysgol. Mae'n debygol eich bod wedi eu defnyddio ar ffurflenni cyfrifiad blynyddol ac ar ffurflenni eraill.

Os nad ydych yn sïwr pa rifau i'w defnyddio er mwyn dechrau, gallwch ofyn i'ch AALl, neu gallwch yrru e-bost at y Comisiwn Archwilioschoolsurvey-help@audit-commission.gov.uk. Mae hi hefyd yn bosib edrych ar y we - dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  1. Ewch i wefan DfES' Edubase http://www.edubase.gov.uk/EstablishmentFind.aspx - mae hwn yn fas data o'r holl sefydliadau addysgol yng Nghymru a Lloegr.
  2. Rhowch enw eich ysgol yn y blwch 'Name of establishment' , a chliciwch ar y blwch Search.
  3. Os na cheir unrhyw ganlyniadau, ceisiwch fynd yn Ôl a nodi rhan o enw'r ysgol yn unig (e.e. 'matthew' yn hytrach na St Matthews C of E primary school). Fel arall, os ceir gormod o ganlyniadau , ceisiwch fynd yn Ôl a nodi mwy o wybodaeth am eich ysgol - megis enw eich awdurdod lleol.
  4. Yn nhabl y canlyniadau, dewch o hyd i'ch ysgol a nodwch y rhif 3-digid sy'n ymddangos yn y golofn 'DfES Number' - rhain yw'r rhifau sydd eu hangen i ddechrau ein harolwg.

Canllawiau ar ymateb i'r arolwg

Mae'r cwestiynau yn yr arolwg wedi'u grwpio yn y ffordd ganlynol:

Yr arolwg craidd – Ar gael i bob ysgol ac wedi'i trefnu yn 5 adran maes (e.e. Adran A: Strategaeth AALl).

Cwestiynau sy'n benodol i Gymru - Ar gael i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Gofynnwch bob cwestiwn drwy ddefnyddio un o'r chwe ymateb posibl sy'n ymddangos:
(1) Da Iawn (2) Da (3) Boddhaol (4) Gwael (5) Gwael Iawn neu (X) Methu gwneud sylwadau

Gallwch hefyd roi sylwadau yn y blychau ar Ôl pob adran ac yn adran Sylwadau Pellach sydd ar ddiwedd yr arolwg.

Gellir argraffu'r arolwg o'r wefan er mwyn sicrhau cyfranogiad cydweithwyr, er enghraifft staff gweinyddol, llywodraethwyr, eich cydlynydd anghenion arbennig ac ati wrth benderfynu ar ymateb yr ysgol.

Arweiniad pellach ar ymateb i gwestiynau'r arolwg:
Dylid seilio eich ymateb i gwestiynau'r arolwg ar eich barn ar wasanaethau a chefnogaeth yr AALl yn ystod y deuddeng mis diwethaf.

  • Efallai y byddwch yn gweld bod y cwestiynau canlynol yn ddefnyddiol wrth i chi ystyried eich ymateb: a yw'r gefnogaeth a dderbynnir gan eich ysgol yn brydlon, yn arbenigol, wedi'i thargedu'n dda, yn effeithiol ac a yw'n cael ei adolygu'n ddiweddar? Os ydych yn ateb yn GADARNHAOL, dylid graddio'r gefnogaeth fel da iawn. Os ydych yn ateb yn NEGYDDOL, dylid graddio'r gefnogaeth fel gwael iawn. Os yw eich atebion yn gymysg dylech ystyried y cryfderau a'r gwendidau a rhoi gradd o 'da', 'boddhaol' neu 'gwael'.


  • Mae 'Eich AALl' yn cyfeirio at y corff sy'n darparu gwasanaethau cefnogi addysg craidd. Yn y rhan fwyaf o achosion dyma fydd eich Cyngor lleol (y gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill y Cyngor). Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y caiff y gwasanaethau eu cyflawni gan ddarparwr a brynir neu gan rai allanol. Rhowch radd i'r gwasanaethau rydych yn derbyn heb ystyried pwy yw'r darparwr. Rhowch gylch o gwmpas yr 'X' dim ond os nad ydych wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaeth penodol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallwch ymhelaethu ar eich atebion yn y blychau sylwadau.


  • Mae blychau sylwadau ar ddiwedd pob adran yn yr arolwg ac ar ddiwedd yr arolwg. Efallai yr hoffech egluro eich graddfeydd pan fydd cwestiynau'n cwmpasu nifer o faterion a rhoi sylwadau ar gryfderau a gwendidau cyffredinol eich AALl.


  • Anogwn benaethiaid i ymgynghori ag aelodau eraill o'r staff ac â llywodraethwyr wrth iddynt ymateb.


  • Pryd bynnag y mae sÔn am 'y / eich ysgol' mewn cwestiwn, mae'n golygu'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu.

Terfynu a chyflwyno eich arolwg fel fersiwn terfynol

Pan fydd eich ysgol wedi gorffen yr arolwg, dylai'r pennaeth glicio ar Cliciwch yma i derfynu a chyflwyno eich arolwg fel gorffenedig o dudalen Prif ddewislen yr arolwg.

Noder:

Mae hyn yn cynnwys dweud wrthym sut yr hoffwch i ymateb eich ysgolion gael ei ddefnyddio. Y dewis diofyniad yw i barhau'n anhysbys i'ch AALl, ond os felly ni allwn drosglwyddo unrhyw sylwadau a wnaethoch, a bydd eich AALl yn derbyn y dadansoddiad agregedig yn unig. Fodd bynnag, yn ychwanegol at hyn gallwch ddewis i gopi gair am air dienw o'ch sylwadau gael ei ryddhau i'ch AALl, neu i'r arolwg â'ch enw arno gael ei ryddhau. Gellwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ryddhau eich ymateb i'ch AALl a budd-ddeiliaid eraill yn y Telerau defnyddio.

Canlyniadau'r arolwg

Bydd dadansoddiad o'r ymatebion i arolwg ysgolion eleni ar gael ar y wefan hon yn ystod tymor yr hydref 2009.

Dylai ysgolion dderbyn adborth yn uniongyrchol oddi wrth eu AALl ar y camau gweithredu a gynllunnir mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg.

Adborth oddi wrth ysgolion

Gofynnwn am adborth oddi wrth ysgolion ar ddiwedd yr arolwg ac rydym wedi derbyn llawer o sylwadau ac awgrymiadau defnyddiol. Mae ein hadroddiadau gwerthuso ar arolygon 2002 – 2007 ar gael ar y wefan hon; mae'r rhain yn dangos sut rydym wedi cynnwys adborth oddi wrth ysgolion wrth inni gynllunio prosiectau.

Os oes gennych unrhyw sylwadau pellach ar naill ai'r arolwg ei hunan neu ar y wefan anfonwch e-bost at schoolsurvey-help@audit-commission.gov.uk