Audit Commission

Audit Commission

Skip to content Go to accessibility page

Main navigation

Telerau defnyddio Y Comisiwn Archwilio

Telerau Defnyddio i Ddefnyddwyr Cofrestredig Gwefan yr Arolwg o Ysgolion

Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn dangos eich bod wedi darllen ac wedi derbyn y Telerau Defnyddio hyn. Os nad ydych yn cytuno â'r Telerau Defnyddio hyn, peidiwch â defnyddio'r wefan. Rydym yn cadw'r hawl, ar ein disgresiwn, i newid, addasu, ychwanegu at neu ddileu rhannau o'r telerau hyn ar unrhyw adeg. Gwiriwch y telerau hyn o bryd i'w gilydd am newidiadau. Bydd parhau i ddefnyddio'r wefan hon yn dilyn postio'r newidiadau hyn (Polisi Preifatrwydd) yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau hynny.

Trosolwg gyffredinol

Mae'r wefan yn rhoi mynediad i chi i arolwg cenedlaethol 2009 o farn ysgolion am wasanaethau eu AALlau. Mae'r arolwg ar gael ar ffurf electronig yn unol â pholisi e-lywodraeth y Llywodraeth.
Datblygwyd yr arolwg drwy bartneriaeth rhwng y Comisiwn Archwilio (y "Comisiwn") Estyn, Ofsted a'r AALlau. Y Comisiwn Archwilio sy biau'r wefan. Bydd yr holl eiddo deallusol, gan gynnwys yr hawlfraint, yn yr arolwg o ysgolion a'r holl wybodaeth a gafwyd drwy'r arolwg yn eiddo i'r Comisiwn Archwilio.

1. Gwybodaeth a Chyfrinachedd

Defnyddir unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu yn unol â'n Polisi Preifatrwydd. Gwnewch ymdrechion rhesymol i sicrhau bod yr holl fanylion a sylwadau a ddarperwch inni at bwrpasau cofrestru i ddefnyddio'r wefan yn gywir.

Cymerir mai eich ymatebion yw ymatebion yr holl ysgol, nid yn unig rhai'r pennaeth – dylech ymateb i'r holiadur ar ran eich ysgol ac nid fel unigolyn yn yr ysgol honno. Rydym yn eich annog i ymgynghori ag aelodau eraill o'r staff neu'r llywodraethwyr wrth i chi ymateb.

Mae'n rhaid i chi gyfyngu eich sylwadau yn yr arolwg i'r AALl fel corff. Rhaid i chi beidio â chynnwys unrhyw sylwadau y gellir eu defnyddio i adnabod unigolyn byw.

Defnyddir eich ymateb i'r arolwg gan eich AALl er mwyn gwerthuso a meincnodi eu perfformiad. Fe'i defnyddir hefyd gan y Comisiwn, Estyn ac Ofsted wrth arolygu AALlau. Fe'i defnyddir gan fudd-ddeiliaid â diddordeb (er enghraifft, yr Adran Addysg a Sgiliau) sydd wedi gofyn am i rai cwestiynau gael eu cynnwys yn yr arolwg.

Manylion pellach ar ryddhau gwybodaeth o'r arolwg:

Oni bai eich bod yn dewis yn wahanol, dim ond y Comisiwn, Estyn ac Ofsted fydd yn gweld ymatebion unigol ysgolion (h.y. darperir gwybodaeth agregedig yn unig i AALlau a budd-ddeiliaid nad yw'n enwi eich ysgol). Ni fydd adroddiadau allanol neu ddadansoddiadau'n enwi ysgolion.

Yn Terfyniad yr Arolwg (pan fyddwch yn dweud bod eich arolwg yn orffenedig), mae gennych yr opsiwn i ryddhau eich ymatebion unigol ag enwau i'ch AALl - gallwch ddewis i ryddhau naill ai eich sylwadau (cofnod gair am air) neu eich arolwg i gyd. Os dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna darperir y data berthnasol i'ch AALl yn ogystal â dadansoddiad agregedig sydd wedi'i wneud yn anhysbys.

Caiff pob defnyddiwr cofrestredig (AALlau sy'n cymryd rhan neu ysgolion a gynhelir gan yr AALlau hyn) fynediad at ddadansoddiad agregedig eu AALl eu hunain yn ystod tymor yr hydref 2009. Os ydych yn cael mynediad heb awdurdod at ddadansoddiad arolwg, ar gam neu fel arall, dylech adael y wefan hon ar unwaith a rhoi gwybod i'r Comisiwn (e-bost webmaster@audit-commission.gov.uk)

Gwnaiff y Comisiwn ymdrechion rhesymol i sicrhau bod wybodaeth a geir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Mae'r Comisiwn wedi dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau a chan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag enwau, cyfeiriadau a manylion penaethiaid ysgolion.

Bydd y Comisiwn yn gwneud gwelliannau neu newidiadau i'r wybodaeth, y gwasanaethau, y cynhyrchion, a deunyddiau eraill ar y wefan hon, neu i ddileu'r wefan hon, ar unrhyw adeg heb rybudd.

2. Cyfyngiadau ar ddefnyddio deunyddiau

Bydd addasu unrhyw ddeunyddiau (gan gynnwys yr arolwg a'r dadansoddiad cysylltiedig) neu'r defnydd o ddeunyddiau (gan gynnwys yr arolwg) at unrhyw bwrpas arall yn torri marc masnach a hawliau eiddo eraill y Comisiwn.

Gallwch islwytho'r arolwg ond ni chaniateir i chi addasu neu newid ffurf yr arolwg. Mae'r arolwg yn ymwneud â'r Comisiwn yn casglu ymatebion ar farn ysgolion am eu AALlau, yn ystod y cyfnod o 3 Mehefin i 15 Gorffennaf 2009. Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r arolwg hwn at unrhyw bwrpas arall neu ddarparu'r arolwg hwn i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig y Comisiwn o flaen llaw.

Gallwch islwytho dadansoddiad yr arolwg ond ni chaniateir i chi addasu neu newid ffurf dadansoddiad yr arolwg ar wahân i arbed, pan fydd wedi'i ei islwytho, y dadansoddiad mewn fformat gwahanol cyhyd â bod canlyniadau'r dadansoddiad yn cael eu hatgynhyrchu'n gywir ac nas defnyddir mewn modd sarhaus neu gamarweiniol. Os newidir fformat y dadansoddiad neu lle y caiff ei gyhoeddi i eraill gyda chaniatâd y Comisiwn, mae'n rhaid cydnabod y ffynhonnell a'r statws hawlfraint.

3. Ymwrthod â Gwarantiad

I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, mae'r Comisiwn yn ymwrthod â phob gwarantiad datganedig a goblygedig mewn perthynas â'r wybodaeth, y gwasanaethau, a'r deunyddiau a geir ar y wefan hon. Darperir yr holl wybodaeth, gwasanaethau, a deunyddiau 'fel y maent' ac 'fel y bydd ar gael' heb unrhyw fath o warantiad. At hyn nid yw'r Comisiwn yn derbyn dim cyfrifoldeb nag atebolrwydd, ac nid yw'n gwneud unrhyw warantiadau, y bydd y swyddogaethau a geir ar y wefan yn gweithio'n ddi-dor neu heb wallau neu y caiff diffygion eu cywiro neu y bydd y wefan hon, neu'r ffeil-weinyddwr sy'n ei rhoi ar gael yn rhydd rhag firws neu unrhyw elfennau niweidiol eraill. Er mwyn eich diogelwch eich hunan dylech gymryd copïau cadw o'r wybodaeth yn gyson a defnyddio'r meddalwedd gwirio firysau diweddaraf ac nid yw'r Comisiwn yn gallu derbyn unrhyw atebolrwydd sy'n codi o'ch methiant i wneud hyn. Sylwer nad yw rhai awdurdodaethau'n caniatáu eithriadau neu warantiadau goblygiedig fel mae'n bosibl nad yw rhai neu'r holl eithriadau uchod yn berthnasol i chi.

4. Cyfyngu Atebolrwydd

Ac eithrio'r difrodau hynny sy'n digwydd o ganlyniad sylwadau twyllodrus neu fel y mae'r gyfraith yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, ni fydd y Comisiwn yn atebol am unrhyw ddifrodau sy'n digwydd oherwydd eich bod yn defnyddio'r wefan hon.

5. Materion Awdurdodaeth

Rheolir a gweithredir y wefan hon gan y Comisiwn o'i swyddfeydd yn Llundain ac ym Mryste. Nid yw'n gwneud unrhyw honiadau bod y deunyddiau ar y Wefan yn addas i gael eu defnyddio mewn mannau eraill. Mae pobl sy'n penderfynu defnyddio'r Wefan hon o fannau eraill yn gwneud felly ar eu menter eu hunain ac yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol, os yw, ac i'r graddau y mae, cyfreithiau lleol yn berthnasol.

6. Arall

Rheolir a dehonglir y telerau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Os penderfynir bod unrhyw un o'r darpariaethau hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym am unrhyw reswm, anorfodadwy, yna cyfrifir bod y ddarpariaeth honno'n doradwy o'r telerau hynny ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw rai o'r darpariaethau sy'n weddill.

8. Polisi Preifatrwydd

Wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon, gallwch ddarparu gwybodaeth amdanoch i'r Comisiwn neu fe all y Comisiwn fel arall gael gwybodaeth amdanoch. Gall y Comisiwn ddefnyddio'r wybodaeth i gatalogio eich diddordebau neu wasanaethau gwybodaeth yr ydych yn eu hislwytho.

Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn datgan caniatâd i'r Comisiwn ddefnyddio'r wybodaeth hon at y pwrpasau canlynol:

  • At bwrpas arolygiadau AALlau
  • I asesu swyddogaeth a pherfformiad y wefan; ac
  • I asesu anghenion ei ddefnyddwyr.

Os nad ydych yn cydsynio i'r Comisiwn ddarparu eich manylion i unrhyw drydydd parti at y pwrpasau uchod dylech anfon e-bost at webmaster@audit-commission.gov.ukat y Comisiwn yn dweud eich bod am i'ch gwybodaeth gael ei heithrio o'r defnydd hwn.

Gallwch ofyn, ar unrhyw adeg, ofyn i'r Comisiwn wneud copi o'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch ar gael i chi. Dylid e-bostio'r cyfryw ymofyniad, ynghyd ag unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych ynghylch eich gwybodaeth bersonol, neu'i gyfeirio at webmaster@audit-commission.gov.uk yn y comisiwn.

Mae'r gyfraith yn eich diogelu drwy'r Ddeddf Gwarchod Data 1998. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gydymffurfio â hon bob amser.

Yn enwedig:
Mae gennych hawl i ofyn pa wybodaeth yr ydym yn ei gadw amdanoch. Gellir gwneud hyn drwy ysgrifennu atom drwy webmaster@audit-commission.gov.uk.